Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Ebrill 2023
Amser:
09.03 -
09.12
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Siân Wilkins, Pennaeth Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i gais gan y BBC i ffilmio yn yr oriel gyhoeddus yn ystod y datganiad ar Arferion Mabwysiadu Hanesyddol.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 2 Mai 2023
· Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Coroni Ei Fawrhydi Brenin Charles III (30 munud)
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) – Gohiriwyd tan 23 Mai
Dydd Mawrth 9 Mai 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 17 Mai 2023 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
4.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd Dros Dro Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr
5 Unrhyw faterion eraill
Trefniadau Cyflwyno
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am y newidiadau sy’n ofynnol i’r trefniadau cyflwyno dros y pythefnos nesaf oherwydd gŵyl y banc ar 1 Mai ac 8 Mai.
Yn ogystal â’r newidiadau hynny, yn sgil y streic sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dydd Gwener 28 Ebrill, bydd y balot ar gyfer cwestiynau llafar i'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd ar 9 a 10 Mai bellach yn cael ei gynnal ddydd Iau 27 Ebrill. Bydd cynigion y Llywodraeth ar gyfer dydd Mawrth 9 Mai hefyd yn cael eu cyflwyno erbyn dydd Iau 27 Ebrill.